Lleoliad:
Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mawrth, 20 Mawrth 2018
Amser:
08.30 -
08.53
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AC (Cadeirydd) Julie James AC Paul Davies AC Rhun ap Iorwerth AC Gareth Bennett AC |
Staff y Pwyllgor: |
Aled Elwyn Jones (Clerc) |
Eraill yn bresennol |
Ann Jones AC, Y Dirprwy Lywydd Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad Christopher Warner, Pennaeth Gwasanaeth y Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Rhuanedd Richards, Cynghorwr Polisi i'r Llywydd Gwion Evans, Pennaeth Swyddfa Breifat y Llywydd Helen Carey, Llywodraeth Cymru |
Cytunodd y Pwyllgor ar gofnodion y cyfarfod ar gyfer eu cyhoeddi.
Dydd Mawrth
· Bydd y Cyfarfod Llawn yn dechrau pan ddaw Pwyllgor y Cynulliad Cyfan i ben. Bydd Pwyllgor y Cynulliad Cyfan yn dechrau am 13.00. Bydd seibiant o 15 munud ar ôl i Bwyllgor y Cynulliad Cyfan ddod i ben.
· Mae'r Llywodraeth wedi ychwanegu dau ddatganiad at agenda'r Cyfarfod Llawn
- Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus: Llywodraeth Leol (45 munud)
- Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol: Ymgynghoriad ar y Bil Deddfwriaeth (Cymru) Drafft (30 munud)
· O ran yr agenda ar gyfer y Cyfarfod Llawn heddiw, gofynnodd Rhun ap Iorwerth a fyddai'n bosibl gohirio'r eitem ar Reoliadau Safonau’r Gymraeg (Rhif 7) 2018, yn sgil y ffaith bod y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu wedi mynegi'r farn bod angen mwy o waith craffu ar y rheoliadau. Dywedodd Arweinydd y Tŷ y byddai'n trafod y mater gyda'r Gweinidog perthnasol y tu allan i'r pwyllgor.
· Bydd y Cyfnod Pleidleisio yn cael ei gynnal fel eitem 6. Bydd yr eitem hon yn cael ei chynnal cyn diwedd y cyfarfod, gan fod dau ddatganiad ar ôl y Cyfnod Pleidleisio nad ydynt yn destun pleidlais.
Dydd Mercher
· Mae'r Rheolwyr Busnes wedi gohirio dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig tan 18 Ebrill, yn sgil yr amser a gaiff ei neilltuo ar gyfer y Ddadl Cyfnod 3.
· Bydd egwyl o 15 munud cyn dechrau trafodion Cyfnod 3.
·
Bydd y Cyfnod Pleidleisio ar gyfer busnes y Cynulliad
yn cael ei gynnal fel eitem 8, cyn y Ddadl Cyfnod 3. Bydd
gweithgarwch pleidleisio yn digwydd drwy gydol y Ddadl Cyfnod 3, a
bydd pleidlais gofnodedig ar gyfer Cyfnod 4 yn cael ei chynnal ar
ddiwedd y cyfarfod.
· Mae dadl fer Rhianon Passmore wedi cael ei gohirio. Mae'r dyddiad pan gaiff y ddadl honno ei chynnal i'w gadarnhau.
Nododd y Pwyllgor Busnes amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.
Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:
Dydd Mercher 18 Ebrill 2018 –
·
Cynnig i drafod y ddwy eitem
ganlynol gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar
wahân:
o
Cynnig i gymeradwyo Polisi Urddas
a Pharch y Cynulliad (30 munud)
o
Cynnig i ddiwygio Cod Ymddygiad yr
Aelodau (30 munud) -
ar gais y Pwyllgor Safonau Ymddygiad
· Amser a neilltuwyd i Blaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig (60 munud)– gohiriwyd ers 21 Mawrth
Dydd Mercher 2 Mai 2018 -
· Datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus: Caffael Cyhoeddus (30 munud)
· Dadl gan Aelod o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i Blaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig (60 munud)
Cadarnhaodd y Rheolwyr Busnes y dyddiadau ar gyfer toriad hanner tymor mis Hydref a thoriad y Nadolig 2018, a chytunodd ar y dyddiadau dros dro ar gyfer hanner tymor y gwanwyn a thoriad yr haf 2018.
Cytunodd Gweinidog Busnes y Llywodraeth i gyflwyno papur ar y materion y mae'n ystyried eu bod yn flaenoriaethau ar gyfer yr adolygiad.
Bydd yr Ysgrifenyddiaeth yn cyflwyno papur ynghylch casglu a chyhoeddi canllawiau a ddarparwyd i'r Aelodau gan y Llywydd.